Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2019
Amser:
08.30 -
09.15
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i Fusnes y Llywodraeth am y 3 wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 18 Mehefin 2019 –
· Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Y Gweithgor ar Lywodraeth Leol - y camau nesaf (45 munud)
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:
Cynnydd tuag at Wneud Cymru’n Genedl Noddfa (45
Munud) - caiff ei gyhoeddi fel datganiad
ysgrifenedig
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2019
Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd (90 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 26 Mehefin 2019 -
· Dadl ar y cyd gyda Senedd Ieuenctid Cymru (60 munud)
·
Dadl ar
Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd tan 3 Gorffennaf
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd o 26 Mehefin
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid ystyried yr eitem fel yr eitem gyntaf o fusnes - cyn busnes y Llywodraeth. Cytunwyd hefyd i gynnal pleidlais (os oes angen) ar y cynnig yn syth ar ôl i'r eitem ddod i ben, yn hytrach na'i gohirio tan y Cyfnod Pleidleisio. Nodwyd y bydd y Llywydd yn atal y cyfarfod ar ôl yr eitem, gyda busnes yn ailddechrau am 14.30.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i aildrefnu dadl Cynnig Deddfwriaethol yr Aelodau i 3 Gorffennaf, er mwyn cynnwys yr eitem ychwanegol.
Gofynnodd y Trefnydd i rywun o dîm Senedd Ieuenctid y Comisiwn fod ar gael i drafod y datganiad drafft gyda swyddogion y Llywodraeth.
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 6 Mehefin:
NNDM7068
Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan.
Cefnogir gan:
Suzy Davies
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr, a chytuno ar amserlen y Bil.
Trafododd y Rheolwyr Busnes yr adroddiad a gofyn am wneud rhai newidiadau. Bydd swyddogion yn gwneud y newidiadau ac yn ailddosbarthu i Reolwyr Busnes i'w cytuno, cyn ei osod yr wythnos hon.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur, a chytunodd Caroline Jones i gadarnhau dewisiadau plaid Brexit ar ôl eu cyfarfod grŵp y bore yma.